Y Pwyllgor Menter a Busnes 20 Mawrth 2014
Cyfleoedd Ariannu yr UE 2014-2020
Papur Tystiolaeth
Cyflwyniad
1. Mae'r papur hwn yn rhoi trosolwg o gyfleoedd ariannu yr UE sydd ar gael yn ystod y cyfnod 2014 -2020 trwy Raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (CTE) a thrwy raglenni sy'n cael eu rheoli'n uniongyrchol gan y Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys Cysylltu Ewrop, COSME, Ewrop Creadigol, Erasmus+, EaSI a LIFE. Nid yw'n cynnwys rhaglenni Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd neu'r PAC. Nid yw ychwaith yn ymdrin â Horizon 2020 sydd wedi bod yn destun ymchwiliad ar wahân gan y Pwyllgor.
2. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ymgysylltu cymaint â phosibl â phob rhaglen a ariennir gan yr UE fel modd o gefnogi twf economaidd a swyddi cynaliadwy. Gyda'i gilydd mae’r rhaglenni hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at ein nodau datblygu economaidd drwy gefnogi busnesau bach, cynyddu sgiliau, hyrwyddo arloesedd a gwella cysylltedd. Yn ogystal, mae rhaglenni CTE yn ein helpu i weithio mewn partneriaeth gyda rhanbarthau eraill a dysgu oddi wrthynt er mwyn gwella dealltwriaeth a mynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredin.
3. Gyda'i gilydd, bydd y rhaglenni CTE a’r rhaglenni a reolir yn uniongyrchol yma yn buddsoddi dros €57bn ar draws yr UE yn ystod cyfnod ariannu 2014 a 2020. Mae’r papur hwn yn rhoi ystyriaeth i’r cyfleoedd a gyflwynir gan hyn, gyda gwybodaeth fanylach am yr agweddau ariannol wedi’i chynnwys yn Atodiadau A a B.
Rhaglenni CTE yng Nghymru
Rhaglenni 2007-2013
4. Mae Rhaglenni CTE cyfredol yn buddsoddi tua €1.4 biliwn, gan gynnwys €885m ERDF ar draws yr UE. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni trawsffiniol, trawswladol a rhyngranbarthol.
5. Mae Cymru wedi bod yn rhan o bum rhaglen yn ystod cyfnod ariannu 2007-2013;
- Iwerddon Cymru (Trawsffiniol)
- Ardal yr Iwerydd (Trawswladol)
- Gogledd-Orllewin Ewrop (Trawswladol)
- Interreg IVC (Rhyngranbarthol)
- URBACT (Rhyngranbarthol)
6. Mae partneriaid o Gymru yn cymryd rhan mewn 89 o brosiectau CTE gwerth tua €146m mewn grant ERDF, ac mae €41.5m o hyn o fudd uniongyrchol i bartneriaid o Gymru. Mae crynodeb wedi'i atodi fel Atodiad A.
7. Ymysg yr enghreifftiau o weithgarwch prosiect a gefnogir gan y rhaglenni hyn y mae clystyru busnesau bach a chanolig, trosglwyddo gwybodaeth yn yr economi morol, cadwraeth ac atal risg amgylcheddol, addasu i newid yn yr hinsawdd, rhwydweithiau datblygu trefol cynaliadwy, datblygu ynni
8. adnewyddadwy a chyfnewid rhwng mentrau cymdeithasol a chymunedol.
Rhaglenni 2014-2020
9. Yn dilyn ein cytundeb gyda Llywodraeth Iwerddon ym mis Tachwedd 2013, bydd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, gan weithredu ar ran Llywodraeth Cymru, yn ymgymryd â rôl Awdurdod Rheoli (ARh) ar gyfer rhaglen Iwerddon/Cymru 2014-2020. Mae paratoadau ar gyfer y Rhaglen Weithredol bellach ar y gweill mewn partneriaeth â Llywodraeth Iwerddon a’n partneriaid yng Nghynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon. O ystyried natur forwrol y ffin rhwng Iwerddon a Chymru, bydd ffocws cryf ar Fôr Iwerddon - rheoli, gwarchod a gwneud y mwyaf o botensial economaidd yr adnodd a renir yma. Bydd y rhaglen hefyd yn hyrwyddo cystadleurwydd ac arloesedd busnes yn y ddwy wlad.
10. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU (Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol) a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill drwy Fwrdd CTE y DU i wneud y gorau o’n buddiannau yn y rhaglenni CTE nesaf yn 2014-2020. Mae fy swyddogion yn tynnu ar arbenigedd Ffrwd Waith CTE yng Nghymru ac yn gweithio'n agos gydag Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau eraill yr UE i ddylanwadu ar saernïaeth, cynnwys a chyflenwi rhaglenni 2014-2020 drwy ymgysylltu'n uniongyrchol â’r amrywiol grwpiau cynllunio Rhaglen a sefydlwyd i gynllunio a pharatoi rhaglenni Ewropeaidd Ardal yr Iwerydd, Gogledd-Orllewin Ewrop ac Interreg EU28. Cynhaliwyd ymarfer myfyriol hefyd yng ngaeaf 2011-12 gan ddarparu cyfle cynnar i randdeiliaid gynnig sylwadau ar gyfeiriad strategol a blaenoriaethau buddsoddi Rhaglenni Cronfa Strwythurol 2014-2020 i’r dyfodol, gan gynnwys Rhaglenni CTE.
11. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i holl raglenni CTE gael ffocws economaidd cryfach. Y flaenoriaeth yw swyddi a thwf, sicrhau'r effaith fwyaf posibl drwy adeiladu ar fecanweithiau ariannu eraill yr UE a’u hategu, a thynnu budd o gydweithio gyda rhanbarthau eraill yr UE.
12. Bydd ymgynghoriadau cyhoeddus ar raglenni trawsffiniol a rhyngwladol Iwerddon/Cymru yn digwydd trwy gydol y Gwanwyn a'r Haf 2014. Mae Interreg Ewrop (Rhaglen 28 yr UE) wedi bod yn agored ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o 10 Ionawr hyd 21 Mawrth 2014.[1] Bydd pob rhaglen yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd erbyn canol mis Medi 2014.
Dyraniad ariannol ar gyfer rhaglenni 2014-2020
13. Mae'r DU wedi cael dyraniad o tua €600m (ac eithrio swm a bennwyd ymlaen llaw ar gyfer rhaglen PEACE Gogledd Iwerddon/Iwerddon) mewn ERDF (yn ôl prisiau 2011) i'w ddyrannu i'r rhaglenni CTE yr ymgysylltir â hwynt yn 2014-2020. Mae hyn yn gynnydd o tua €38m o 2007-2013.[2]
14. Trafodir yswm ar gyfer pob rhaglen ar lefel y DU a disgwylir penderfyniad terfynol yn fuan. Rhagwelir y bydd y dyraniadau ar gyfer pob un o'r categorïau rhaglen at ei gilydd yn parhau ar yr un lefel â chyfnod rhaglen 2007-2013.
Rhaglenni ariannu eraill yr UE
15. Mae'r rhaglenni Ewropeaidd a gyflenwir trwy “reolaeth uniongyrchol” yn cwmpasu ystod eang o ffrydiau ariannu. Nod y rhaglenni yw hyrwyddo buddiannau’r UE neu gyfrannu at weithredu rhaglenni neu bolisïau yr UE ac mae llawer yn gofyn am bartneriaeth neu gydweithredu trawswladol. Yn wahanol i'r rhaglenni'r UE a gyflenwir trwy “rannu rheolaeth” megis y Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni’r PAC, yn gyffredinol nid yw'r rhaglenni’n cael eu hanelu at ranbarthau penodol, ond maent yn agored i gystadleuaeth o bob rhan o'r UE. Felly, mae'n hanfodol bod sefydliadau yng Nghymru yn gallu manteisio ar botensial llawn y cyfleoedd hyn.
16. Y rhaglenni sy’n benodol berthnasol i Gymru yw Cysylltu Ewrop, COSME, Ewrop Creadigol, Erasmus+, EaSI a LIFE.
17. Yn ogystal â'r cyfleoedd sylweddol o dan raglen Horizon 2020, gall y rhaglenni wneud cyfraniad hanfodol i’n nodau datblygu economaidd drwy gefnogi busnesau bach, hyrwyddo arloesedd a gwella cysylltiadau trafnidiaeth .
· Mae gan Cysylltu Ewropgyllideb sylweddol o €33bn i gefnogi datblygiad rhwydweithiau traws-Ewropeaidd yn y maes ynni, telathrebu a thrafnidiaeth. Targedir llawer o'r gyllideb at wella seilwaith mewn gwledydd Cydlyniant ond yn y gorffennol mae Network Rail wedi bod yn llwyddiannus wrth gael mynediad at €11 miliwn ar gyfer ei brosiect Trydaneiddio Rheilffordd y Great Western ac mae Cymru wedi elwa o’r Systemau Trafnidiaeth Deallustraws-Ewropeaidd ar gyfer ffyrdd. Yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sy'n arwain polisi ar y rhaglen hon o fewn Llywodraeth Cymru.
· Mae rhaglen €2bn COSME yn cynnwys camau gweithredu i wella mynediad at gyllid a marchnadoedd ar gyfer busnesau bach a chanolig. Mae Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru yn cael ei chyflwyno gan BIC Innovation a Phrifysgol Abertawe. Yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sy'n arwain polisi ar y rhaglen hon o fewn Llywodraeth Cymru.
· Rhaglen gwerth €1.5 biliwn yw Ewrop Creadigoli annog y sectorau diwylliannol a chreadigol i fanteisio i’r eithaf ar y Farchnad Sengl a chyrraedd cynulleidfaoedd mewn gwledydd eraill. Mae cwmnïau o Gymru wedi sicrhau €2.5m o raglen MEDIA 2007-13 a fydd yn awr yn ffurfio rhan o raglen Ewrop Creadigol ar gyfer 2014-2020. Yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sy'n arwain polisi ar y rhaglen hon o fewn Llywodraeth Cymru .
18. Mae myfyrwyr o Gymru wedi cael budd sylweddol o raglenni addysg a sgiliau yr UE.
· Mae rhaglen €15 biliwn ERASMUS+ 2014-2020 yn cynnwys camau gweithredu i gefnogi symudedd dysgu unigolion a chydweithio ar gyfer arloesedd a chyfnewid arferion da. Yr Adran Addysg a Sgiliau sy'n arwain polisi ar y rhaglen hon o fewn Llywodraeth Cymru ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn Grŵp Ymgynghorol gan gynghori ar ffyrdd o sicrhau'r fantais fwyaf o’r cronfeydd yng Nghymru.
· Rhaglen newydd €815m yw EaSI sy'n helpu i wella cyflogaeth a pholisïau cymdeithasol, gan gynorthwyo gyda symudedd gweithwyr ac mae’n cynnwys Cyfleuster Microgyllid. Yr Adran Addysg a Sgiliau sy'n arwain polisi ar y rhaglen hon o fewn Llywodraeth Cymru.
19. Mae lle sylweddol hefyd i gefnogi diogelu adnoddau naturiol Cymru. Mae'r rhaglen LIFE newydd (€ 3.5bn) yn cefnogi effeithlonrwydd adnoddau, natur, bioamrywiaeth a lliniaru newid yn yr hinsawdd a mesurau addasu. Mae Cymru wedi elwa o nifer o brosiectau, sy’n cael eu cyflenwi gan Adnoddau Naturiol Cymru o dan y rhaglen a’i rhagflaenodd i adfer Corsydd Môn a Llŷn (grant €2.7 miliwn) a rhaglen adfer Natura 2000 yng Nghymru (grant €655k). Yr Adran Adnoddau Naturiol a Bwyd sy'n arwain polisi ar y rhaglen hon o fewn Llywodraeth Cymru.
Mecanweithiau cefnogol i gael mynediad at ariannu
20. Mae gwefan EUROPA yr UE[3] yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ar Raglenni yr UE, gan gynnwys rhaglenni a reolir yn uniongyrchol.Mae'r UE hefyd yn defnyddio nifer o sefydliadau partner i hwyluso rhannu gwybodaeth a darparu cyngor ar geisiadau am gyllid. Yng Nghymru, maent yn cynnwys Rhwydwaith Menter Ewrop sy'n helpu sefydliadau i ddatblygu trwy ddarparu cyngor a chymorth ar gyfer arloesi a datblygu technoleg trawswladol, a Chanolfannau Gwybodaeth Uniongyrchol Ewrop. Mae llawer o sefydliadau Cymreig, megis Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch, hefyd yn cyflogi Swyddogion Ewropeaidd i hwyluso mynediad at gronfeydd yr UE.
21. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod sefydliadau ac unigolion yng Nghymru yn cael budd llawn o'r cronfeydd hyn. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeirio at brif ffynonellau rhaglenni ariannu ac yn ogystal â'r camau a ddisgrifir uchod, mae Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn dal y Ddesg MEDIA Antenna ar gyfer Cymru.
Strategaeth CTE
22. Gwnaed yr argymhelliad canlynol yn adroddiad 2011 y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol mewn perthynas â’r CTE ar 'gyfranogiad Cymru mewn rhaglenni ymchwil, arloesi a dysgu gydol oes':
‘Argymhelliad 9: Llywodraeth Cymru i adolygu ei Strategaeth Cydweithio
Tiriogaethol ac archwilio’r cyfle i weithio mewn partneriaeth ar brosiectau a ariennir, yn enwedig gyda’r dinasoedd a’r rhanbarthau hynny sydd eisoes â threfniadau gweithio, gan gynnwys drwy Femoranda o Ddealltwriaeth a Gefeillio.’
Mae'r Strategaeth Cydweithio Tiriogaethol i fod i gael ei adolygu a’i diwygio yn dilyn cyhoeddi astudiaeth Cwmpasu Cydweithio Tiriogaethol ym Mawrth 2014 ar gyfer y cyfnod 2007-2013. Cafodd yr astudiaeth cwmpasu ei chomisiynu gan WEFO er mwyn helpu i lywio datblygiad y rhaglenni CTE newydd. Bydd diweddariad o strategaeth CTE yn cymryd ystyriaeth o ganfyddiadau’r Astudiaeth Cwmpasu ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad cyfres 2014-2020 o raglenni CTE.
Ariannu'r UE yng Nghyllidebau Llywodraeth Cymru
23. Mae pob adran yncynllunio ei phrosiectau ei hun y mae’n gobeithio derbyn cefnogaeth yr UE ar eu cyfer. Wrth gynllunio ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol benodol, bydd llawer o'r gefnogaeth yma wedi cael ei sicrhau yn barod, gan fod llawer o brosiectau yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd. Ar gyfer 2014/15, bydd adrannau Llywodraeth Cymru yn cynllunio i’w gwariant eu hunain gael ei ategu gan gronfeydd yr UE o gylch ariannu 2007- 2013 ac o gylch ariannu newydd 2014- 2020 (cronfeydd a weinyddir drwy Awdurdodau Rheoli yng Nghymru a'r rhai a reolir yn uniongyrchol gan y Comisiwn).
24. O dany rheoliadau, gall prosiectau barhau i wario i mewn i 2015 ac mae nifer o brosiectau Llywodraeth Cymru wedi cael cymeradwyaeth i wneud hynny. Mae hyn yn caniatáu cyfnod o orgyffwrdd gyda'r rhaglenni newydd, felly mae adrannau yn llunio cynigion ar hyn o bryd ar gyfer gweithrediadau allweddol yn y cylch ariannu nesaf gyda golwg iddynt gael eu cymeradwyo yn ystod 2014. Bydd hyn o gymorth i gynnal sicrwydd a pharhad y ddarpariaeth lle mae’r gweithgareddau yn y cylch newydd yn agos at y rhai sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd
Atodiad A
Rhaglenni CTE yng Nghymru 2007-2013
|
Cyfanswm Gwerth Rhaglen / € |
Cyfanswm gwerth Rhaglen / ERDF / € |
Nifer Prosiectau a Gymeradwywyd gyda phartneriaid o Gymru |
Cyfanswm costau prosiect / € |
Cyfanswm Grant ERDF / € |
Cyfanswm Costau yng Nghymru / € |
Cyfanswm ERDF Cymru / € |
|
|
Iwerddon Cymru Trawsffiniol |
70,260,394 |
52,695,295 |
41 |
68,336,179 |
49,023,050 |
37,096,481 |
26,315,406 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ardal Iwerydd Trawswladol |
158,798,190 |
104,051,233 |
17 |
38,315,275 |
24,904,879 |
7,220,265 |
4,620,350 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gogledd Orllewin Ewrop Trawswladol |
696,668,854 |
355,443,293 |
16 |
110,774,391 |
55,065,224 |
17,166,091 |
8,583,045 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Interreg IVC Rhyngranbarthol |
405,094,936 |
321,321,762 |
13 |
23,357,799 |
18,364,756 |
2,774,582 |
2,080,936 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
URBACT Rhyngranbarthol |
68,890,739 |
53,319,170 |
2 |
651,410 |
482,797 |
12,500 |
10,000 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
1,399,713,113 |
886,830,753 |
89 |
241,435,054 |
147,840,706 |
64,269,919 |
41,609,737 |
|
|
Atodiad B
Rhaglenni eraill yr UE
Cyllideb yr UE (prisiau cyfredol) |
Amcanion |
Proses ymgeisio / cymorth |
Cysylltu Ewrop |
||
Cyfanswm o €33.3bn
€1.1bn ar gyfer digidol
€26.3bn ar gyfer trafnidiaeth (€11.3bn wedi’i neilltuo ar gyfer gwledydd Cydlyniant) (80-85% ar gyfer y rhwydwaith graidd, 10-15% ar gyfer cyllid arloesedd a 5% ar gyfer y rhwydwaith Gynhwysfawr)
€5.9bn ar gyfer ynni |
Cefnogi datblygu rhwydweithiau traws-Ewropeaidd ym maes ynni, telathrebu a thrafnidiaeth. |
Asiantaeth Weithredol Arloesedd a Rhwydweithiau (INEA) yn cyhoeddi rhaglenni gwaith ac yna’n galw am gynigion blwyddyn ac amlflwydd. http://inea.ec.europa.eu/en/home
|
Cyfanswm o €2.298 biliwn
€1.4 biliwn ar gyfer benthyciadau a chyfalaf menter
|
1) mynediad i gyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig, trwy a) cyfleuster gwarantu benthyciad a b) cyfleuster ecwiti 2) mynediad i farchnadoedd, o fewn yr Undeb ond hefyd ar lefel byd-eang (wedi’i hwyluso gan y Rhwydwaith Menter Ewrop), 3) amodau fframwaith ar gyfer busnesau trwy wella polisi, a 4) entrepreneuriaeth a diwylliant entrepreneuraidd – cyfnewid arferion da |
Gall busnesau bach a chanolig gael gwybodaeth ar gyfryngwyr sy'n cymryd rhan trwy borth ariannu http://access2eufinance.ec.europa.eu
Caiff Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru ei rhedeg gan BIC Innovation Cyf a Phrifysgol Abertawe http://www.enterpriseeuropewales.org.uk/wlx/
|
€1.463bn |
Annog y sectorau diwylliannol a chreadigol i wneud y mwyaf o'r Farchnad Sengl a chyrraedd cynulleidfaoedd mewn gwledydd eraill. Mae gan y rhaglen ddwy is-raglen 1) Diwylliant, sy’n cefnogi’r celfyddydau perfformio a gweledol, treftadaeth 2) MEDIA, sy’n darparu cyllid ar gyfer y sector sinema a chlywedol. |
Asiantaeth Weithredol Addysg, Clyweledol a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd yn galw am gynigion.
Mae cymorth ar gael oddi wrth Ddesg MEDIA Antenna a leolwyd o fewn yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. www.mediadeskuk.eu
Ac oddi wrth y Cyngor Prydeinig ar gyfer yr is-raglen Diwylliant |
€815m 61% ar gyfer Progress
18% ar gyfer EURES
21% ar gyfer Microgyllid ac Entrepreneuriaeth Gymdeithasol |
Tair elfen: Mae Progress (Rhaglen Cyflogaeth ac Undod Cymdeithasol Ewrop) yn helpu i wella polisïau ym meysydd cyflogaeth, cynhwysiant cymdeithasol ac amddiffyn rhag tlodi, ac amodau gwaith
EURES (Gwasanaethau Cyflogi Ewropeaidd) a Cyfleuster Microgyllid ac Entrepreneuriaeth Gymdeithasol Progress. |
Progress yn galw am dendrau neu gynigion (Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r cyswllt cenedlaethol)
EURES yn galw am dendrau neu gynigion Gall y di-waith gael mynediad at microgyllid trwy ddarparwyr cymeradwy. Nid oes un yn darparu ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. |
€14.775bn
|
1) Symudedd dysgu unigolion 2) Cydweithredu ar gyfer arloesi a chyfnewid arferion da 3) Cymorth ar gyfer diwygio polisi Yn cyfrannu tuag at: · Codi cyrhaeddiad addysg uwch o 32% i 40% · Lleihau’r ganran o’r rhai sy’n gadael ysgol yn fuan o 14% i llai na 10% |
Asiantaethau Cenedlaethol (Y Cyngor Prydeinig ac Ecorys yn y DU) yn hwyluso rheoli a galw am geisiadau ar gyfer 85% o'r cyllid sydd ar gael. http://www.erasmusplus.org.uk/
Asiantaeth Weithredol Addysg, Clyweledol a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd yn galw am gynigion ar gyfer y 15% sy’n weddill. |
€3.457bn |
Mae gan y rhaglen ddwy is-raglen 1) yr amgylchedd, sy’n cynnwys: yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau; natur a bioamrywiaeth; a llywodraethiant a gwybodaeth amgylcheddol; 2) Gweithredu ar Hinsawdd, sy’n cynnwys: lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd; addasu i newid yn yr hinsawdd; a llywodraethiant a gwybodaeth hinsawdd. |
BetaEurope yn gweithredu fel gwasanaeth Pwynt Cyswllt y DU ar gyfer LIFE+ ar ran Defra a’r Asiantaeth Safonau Bwyd. |
[1] Mae’r ymgynghoriad ar gael ar y wefan ganlynol. http://www.interreg4c.eu/interreg-europe/public-consultation/
[2] Ar sail ffigurau gan Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau Llywodraeth y DU.